TOCYNNAU AR WERTH ICF 2023
Cyfarchion y Tymor!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod tocynnau a llety ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Serameg 2023 ar gael i’w harchebu nawr!
Mae amryw o newidiadau i gyllid Cyngor y Celfyddydau ar ôl Covid ac ailstrwythuro angenrheidiol ein sefydliad yn golygu bod tocynnau wedi mynd ar werth ychydig yn hwyrach nag yn y blynyddoedd blaenorol. Ymddiheuriadau am yr aros ond rydym yn ôl gyda chynnig gwych.
Hyd at Fawrth 31ain 2023 mae ein Tocynnau Cynnar penwythnos a diwrnod ar gael ar yr un raddfa â phrisiau gŵyl 2019.
Mae ein gwesteion rhyngwladol ar gyfer lein-yp Arddangoswyr 2023 hyd yn hyn yn cynnwys:
Halima Cassell MBE (DU)
Toni Losey (Canada)
Sharon Griffin (DU)
Sergei Isupov (Estonia/UDA)
Thomas Bohle (Awstria)
Zoe Preece (Cymru)
Theodora Chorafas (Groeg)
Grainne Watts (Iwerddon)
Adam Keeling (DU)
Russell Kingston (DU)
TOCYNNAU CYNNAR PENWYTHNOS
Pris Llawn | £150
Crochenwyr De Cymru / Crochenwyr Gogledd Cymru | £135
Myfyrwyr| £100
Plant dan 14 oed | Am ddim
Grwpiau: talu am 10 tocyn a chael un ychwanegol am ddim!
Am wybodaeth lawn am docynnau ac opsiynau llety cliciwch yma: Tocynnau a Llety
I archebu’n uniongyrchol trwy Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth cliciwch yma: Archebu Tocynnau
LLETY
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ychydig o lety yn ystod yr ŵyl. I archebu lle ewch i https://bookaccommodation.aber.ac.uk/?l=cy-GB a defnyddio’r cod hyrwyddo ICF2023.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau llety at Swyddfa Gynhadledd y Brifysgol y gellir cysylltu â hwy drwy e-bost yn constaff@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621 960 – nodwch fod swyddfa’r gynhadledd yn cau dydd Iau 22 Rhagfyr ac ailagor ddydd Mawrth 3 Ionawr.