logo

Datganiad Preifatrwydd

Ym mis Mai 2018, daw deddf preifatrwydd data newydd yr Undeb Ewropeaidd o’r enw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym. Hon fydd y gyfraith preifatrwydd data fwyaf cynhwysfawr yn y byd, gan eich amddiffyn rhag unrhyw ohebiaeth ddiangen. Rydym yn defnyddio ein rhestr bostio i anfon manylion atoch am yr Ŵyl Serameg Ryngwladol gan gynnwys: Gwybodaeth am raglen yr ŵyl (arddangoswyr, arddangosfeydd, darlithwyr ac ati) cystadlaethau, cyfleoedd, newyddion, digwyddiadau, gwybodaeth am y sefydliad ICF a’r Ŵyl, gan gynnwys gwybodaeth gan Stondinau Masnach a Noddwyr yn ymwneud â chynigion neu weithgareddau yn ystod yr Ŵyl. Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau GDPR newydd, gofynnwn ichi gadarnhau eich bod yn cytuno i’n Polisi Preifatrwydd ac yr hoffech barhau i dderbyn gwybodaeth gennym trwy glicio ar y ddolen isod.

DIOGELU DATA

DATGANIAD PREIFATRWYDD

DATGANIAD PREIFATRWYDD
Polisi Preifatrwydd (V1) yr Ŵyl Serameg Ryngwladol (ICF)

Mae’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn disgrifio’r ffyrdd y mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn casglu ac yn defnyddio eich data personol. Eich cyfrifoldeb chi yw adolygu a deall y Datganiad Preifatrwydd hwn cyn i chi roi eich data personol i ni. Rhaid i chi adolygu hefyd ein Termau ac Amodau. Os nad ydych yn derbyn ac yn cytuno â’r Datganiad Preifatrwydd a/neu’r Termau ac Amodau, ni ddylech roi eich data personol i ni ac ni fyddwch yn gallu defnyddio’n cynnyrch neu’n gwasanaethau.

Gall ein Datganiad Preifatrwydd a Thermau ac Amodau hefyd newid o bryd i’w gilydd. Pan geir newidiadau, gosodir y polisïau addasedig ar ein gwefan a byddant yn effeithiol o’r amser hwnnw. Pob tro y maent yn newid, bydd y rhif fersiwn ar dop y dudalen hefyd yn newid. Felly, pob tro yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cysylltu â ni, ‘rydych yn derbyn ac yn cytuno â’r Datganiad Preifatrwydd a Thermau ac Amodau mwyaf diweddar. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau o’r math.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio sut mae’ch manylion personol yn cael eu casglu, eu defnyddio a’u rhannu pan ‘rydych yn ymweld â gwefan yr Ŵyl Serameg Ryngwladolphttps://www.internationalceramicsfestival.org/ neu pan ‘rydych yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni. Er enghraifft: pan ‘rydych yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth, yn prynu eitem o’r arddangosfeydd yn ystod yr Ŵyl, yn ymuno â Chyfeillion yr Ŵyl, yn cymryd rhan yn y Sêl Cwpan a.y.y.b. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gontractwyr yn cynnwys Stondinau Masnach, gwirfoddolwyr a staff, gwesteion ac arddangoswyr yn ystod yr Ŵyl.

Noder: Cyfeiriwch os gwelwch yn dda at Bolisi Preifatrwydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am wybodaeth ynglyn â sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio pan ‘rydych yn prynu tocyn ar gyfer yr Ŵyl Serameg Ryngwladol trwy’r Ganolfan ac hefyd y Swyddfa Gynhadledd os ydych yn archebu llety trwy Brifysgol Aberystwyth.
Casglu Data Personol

Er mwyn darparu ein cynnyrch a’n gwasanaethau, ‘rydym yn casglu ac yn prosesu data personol oddi wrth ein harddangoswyr a gwesteion, cwsmeriaid, staff a gwirfoddolwyr. Gallwn gasglu gwybodaeth (“Data Personol”) oddi wrthych megis, ond nid yn unig, eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn, dyddiad geni, rhyw, manylion talu, manylion cyflogaeth. Nid oes angen i chi roi i ni’r holl Ddata Personol a restrir uchod, ond os nad ydych yn gwneud hynny, efallai ni fyddwn yn medru darparu’n effeithiol ar eich cyfer ein cynnyrch, gwasanaethau a gwybodaeth. Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn angenrheidiol i chi roi i ni gategorïau penodol o Ddata Personol (yn cynnwys enw, cyfeiriad e-bost a manylion talu) er mwyn i ni drefnu cytundeb gyda chi ac er mwyn ein galluogi i berfformio’r cytundeb hwnnw.

www.dev.internationalceramicsfestival.org (a elwir y “Safle”).

Pan ‘rydych yn ymweld â’r Safle, ‘rydym bob amser yn casglu gwybodaeth benodol ynglyn â’ch dyfais, yn cynnwys gwybodaeth am eich porwr gwefan, cyfeiriad IP, rhanbarth amser, a rhai o’r cwcis sydd wedi eu gosod ar eich dyfais. Hefyd, wrth i chi bori’r Safle, ‘rydym yn casglu gwybodaeth am y tudalennau gwe unigol neu’r cynnyrch yr ydych yn edrych arnynt, pa wefannau neu dermau a’ch cyfeiriodd at y Safle, a gwybodaeth ynglyn â sut yr ydych yn ymadweithio gyda’r Safle.
‘Rydym yn cyfeirio at y wybodaeth hon a gesglir yn awtomatig fel “Gwybodaeth Ddyfais.” ‘Rydym yn casglu Gwybodaeth Ddyfais yn defnyddio’r technolegau canlynol:
– “Cwcis” yw ffeiliau data a osodir ar eich dyfais neu gyfrifiadur sy’n aml yn cynnwys dynodwr unigryw anhysbys. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r rhain, a sut i’w hanalluogi, ymwelwch â http://www.allaboutcookies.org
– Mae “Ffeiliau Log” yn tracio gweithrediadau sy’n digwydd ar y safle, ac yn casglu data yn cynnwys eich cyfeiriad IP, y math o borwr, darparwr y gwasanaeth Rhyngrwyd, tudalennau cyfeirio/ymadael, a stampiau dyddiad/amser.
Pan ‘rydym yn siarad am “Ddata Personol” yn y Polisi Preifatrwydd hwn, ‘rydym yn cynnwys Gwybodaeth Ddyfais.
Mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn cydymffurfio â’r Ddeddf Amddiffyn Data 1998 ac, ar ôl Mai 2018, y Rheoliad Amddiffyn Data Cyffredinol (GDPR). Gweler yr adran “Defnyddio Gwybodaeth” isod am ragor o fanylion am y ffyrdd yr ydym yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol.

Defnyddio Gwybodaeth
Gellir defnyddio eich Data Personol yn y ffyrdd canlynol:
• I ddarparu ein cynnyrch a’n gwasanaethau i chi
• I ddatblygu a gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau, er enghraifft, trwy ymgymryd ag ymchwil mewnol
• I brosesu taliadau oddi wrthych chi
• I brosesu taliadau i chi (yn cynnwys, ond nid yn unig, ad-daliadau)
• Pwrpasau mewnol, megis gweinyddu gwefannau a systemau neu archwiliadau ac adolygiadau mewnol
• I gyfathrebu gyda chi ynglyn â chynnyrch/gwasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi
• I ymateb i’ch gofynion ac ymholiadau
• I ddarparu hysbysebion perthnasol i chi pan ‘rydych yn ymweld â’n safleoedd neu safleoedd trydydd-barti eraill (yn cynnwys platfformau cyfryngau cymdeithasol)
• I ofyn i chi gymryd rhan mewn arolygon opsiynol, grwpiau ffocws, neu weithgareddau eraill sy’n ein cynorthwyo i gasglu gwybodaeth a ddefnyddir i ddatblygu a gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau

Byddwn yn prosesu eich Data Personol at y pwrpasau a nodir uchod ar y seiliau canlynol:
1. Lle mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn gwireddu ein cytundeb i ddarparu ein cynnyrch, gwasanaethau a gwybodaeth i chi, neu i gymryd camau cyn ymrwymo i’r cytundeb hwnnw (GDPR, Erthygl 6 (1)(b)).
2. Lle mae prosesu yn angenrheidiol at y pwrpas o gyflawni gweithredu dilys y Brifysgol yn nhermau darparu a gwella ein cynnyrch, gwasanaethau a gwybodaeth (GDPR, Erthygl 6 (1)(f)).
3. Fel bo’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r Ŵyl, er mwyn datrys anghydfodau a gorfodi cytundebau cyfamodol (GDPR, Erthygl 6 (1)(c)).
Dylid nodi nad yw unrhyw ddata, ar hyn o bryd, yn rhwym wrth brosesau gwneud-penderfyniadau awtomataidd, ac ni throsglwyddir unrhyw ddata y tu allan i’r Undeb Ewropeiadd i gael ei brosesu neu at unrhyw bwrpas arall.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am ba mor hir mae’ch archebiad /gweithgaredd /cytundeb / gwasanaeth yn weithredol, yn ogystal ag am gyfnod ychwanegol byr wedyn er mwyn delio gydag unrhyw faterion neu ymholiadau a all godi mewn cysylltiad â’ch cyfrif (er enghraifft, taliadau dyledus). Gellir adolygu a newid hyd y cyfnod hwn.
Rhannu a Datguddio i Drydydd Bartïon
Gallwn ddatguddio eich Data Personol i drydydd bartïon o dan yr amgylchiadau canlynol:
1. Eich bod chi’n ceisio neu’n awdurdodi datguddio’ch manylion personol i drydydd barti.
2. Bod y wybodaeth yn cael ei datguddio fel y caniateir gan ddeddf(au) cymwys ac/neu er mwyn cydymffurfio â deddf(au) cymwys (er enghraifft, i gydymffurfio â gwarant chwilio, gwyslythyr neu orchymyn llys).
3. Bod y wybodaeth yn cael ei darparu i’n hasiantiaid, gwerthwyr neu gyflenwyr ein gwasanaethau sy’n gweithredu ar ein rhan. Gweler isod am fanylion ychwanegol.
Gall natur a chategorïau trydydd bartïon o’r math newid yn ystod tymor eich cysylltiad gyda ni.
Disgwylir y datgelir eich Data Personol i’r categorïau canlynol o gyflenwyr ein gwasanaethau sy’n gweithredu ar ein rhan. ‘Rydym yn mynnu eu bod ond yn defnyddio eich Data Personol fel bo angen er mwyn darparu y gwasanaethau perthnasol i ni, ac mae pob cyflenwr gwasanaeth yn rhwym wrth set o dermau sy’n cydfynd â’r Polisi Preifatrwydd hwn.

• Cyflenwyr cynnal sy’n storio ac yn trosglwyddo’ch data’n ddiogel
• Cyflenwyr rheoli hunaniaeth at bwrpasau dilysiad
• Cyflenwyr meddalwedd storio data sy’n rheoli ac yn tracio’ch data
• Ymgynghorwyr cyfreithiol a chydymffurfio â deddfau, megis cyngor allanol, archwilwyr allanol, neu ymgynghorwyr treth
• Cyflenwyr marchnata sy’n anfon cyfathrebiadau ar ein rhan ynglyn â’n cynnrych a gwasanaethau
• Cyflenwyr datrys taliadau sy’n prosesu’ch taliadau i ni’n ddiogel
• Gwerthwyr cyflawniad a phost sy’n cyflawni ein cynnyrch a gwasanaethau

Sut yr hoffech gyfathrebu
Ceisiwn ddarparu i chi wybodaeth berthnasol a defnyddiol sy’n gysyllteideg â’n cynnyrch a gwasanaethau a gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r wybodaeth a restrir ar ddiwedd y datganiad hwn i wneud unrhyw newidiadau yn y ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu â chi. ‘Rydym ond yn cyfathrebu â chi’n electronig os yw’r wybodaeth yn berthnasol i’r gwasanaethau neu’r cynnyrch yr ydym yn, neu’n bwriadu, darparu ar eich cyfer, neu os ydych wedi cytuno’n bositif i ni anfon deunydd marchnata atoch. Bydd unrhyw e-byst hysbysebol a anfonir gennym yn cynnwys dolen ar ddiwedd yr e-bost i ddileu’ch tanysgrifiad.
Hawliau’r Defnyddiwr
Fel defnyddiwr, o dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol:
• Yr hawl i gael eich hysbysu o sut mae’ch Data Personol yn cael ei ddefnyddio
• Yr hawl i gael mynediad i’ch Data Personol
• Yr hawl i gywiro/addasu eich Data Personol
• Yr hawl i ddileu Data Personol
• Yr hawl i gyfyngu prosesu’ch Data Personol
• Yr hawl i gludo data
• Yr hawl i wrthwynebu prosesu
• Hawliau mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd

Gweler rhagor o fanylion yma: https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallwch geisio arfer unryw un o’r hawliau hyn trwy ddiweddaru eich manylion, neu drwy anfon cais mewn ysgrifen at yr Ŵyl Serameg Ryngwladol yn defnyddio’r manylion cyswllt a restrir isod:

E-bost: administrator@icfwales.co.uk

Gŵyl Serameg Ryngwladol
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Penglais, Aberystwyth,
Ceredigion SY23 3DE