Ymunwch â ni ar Orffennaf yr ail! Rydym mor gyffrous i fod yn bartneri hefo COCA Efrog ar gyfer trafodaeth ar-lein am sut mae perfformiad serameg wedi addasu yn ystod y cyfnod clo, yn cynnwys Andrew Livingstone, Athro Serameg ym Mhrifysgol Sunderland a’r artistiaid Claire McLaughlin ac Angela Tait. Bydd ein cyfarwyddwr Moira Vincentelli hefyd yn trafod perfformiadau cofiadwy o’n harchifau yn arwain at ein harddangosfa archifau ar-lein ddydd Sadwrn Gorffennaf 3ydd. Mae tocynnau ar gyfer y ddau ddigwyddiad ar-lein yn rhad ac am ddim, mwy o fanylion am sut i archebu ar gyfer ffrydio ein harchifau dydd Sadwrn i ddod yn fuan.
Cliciwch ar y linc yma i archebu tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad COCA: Archebu Yma