Annwyl Gyfeillion,
Gobeithio eich bod yn iach ac wedi cael blwyddyn dda er gwaethaf yr heriau parhaus.
Fel Cyfarwyddwyr yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd eto i ohirio’r ŵyl draddodiadol, y tro hwn gyda’r nod o gynnal y digwyddiad nesaf Ddydd Gwener Mehefin 30ain tan Ddydd Sul Gorffennaf 2il 2023.
Am amryw o resymau credwn y bydd yn well inni fynd yn ôl at gynnal yr ŵyl ar flynyddoedd odrif, gyda 2023 yn flwyddyn ŵyl nesaf naturiol os byddwn yn parhau â’r patrwm rheolaidd. Roeddem yn falch o allu cynnal ‘Ailddirwyn’, digwyddiad cymysg yn Aberystwyth eleni, ond ni all gymryd lle’r ŵyl lawn.
Gydag ôl-groniad o arddangosfeydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth oherwydd cyfyngiadau Cofid hefyd, rydym yn rhagweld y bydd gohirio’r ŵyl yn caniatáu mwy o le yn yr orielau ar gyfer arddangosfeydd cerameg ochr yn ochr â’r arddangosiadau a’r taniadau yn y dyfodol.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl yn 2023. Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Dymuniadau gorau,
Cyfarwyddwyr yr ICF