Mae cyfle cyffrous newydd wedi codi i aelod newydd ymuno â thîm yr ŵyl fel cyfarwyddwr gwirfoddol.
Yn draddodiadol, mae’r ICF yn cael ei redeg gan fwrdd o chwe chyfarwyddwr ar sail wirfoddol. Mae aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn cydweithio’n agos â thîm o gontractwyr hunangyflogedig i drefnu a chyflwyno’r ŵyl a disgwylir iddynt fynychu cyfarfodydd bwrdd unwaith y mis ar Zoom gyda chyfranogiad ychwanegol o amgylch yr ŵyl.
Mae hon yn sefyllfa gyffrous i fod yn rhan o ŵyl hanesyddol ar drobwynt arwyddocaol lle’r ydym yn gobeithio datblygu’r rhaglen i gyfeiriadau newydd. Yn ystod haf 2021 fe wnaethom gynnal ein digwyddiad ICF ar-lein cyntaf ‘Ailddirwyn – Dros 30 mlynedd o’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth’ ac mae gennym awydd i barhau i archwilio cyfleoedd i gyflwyno’r ŵyl mewn ffordd hybrid yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen isod:
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 22 Gorffennaf 2022