Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn archwilio ein harchifau sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r ŵyl yn 1987. Ar Ddydd Sadwrn Gorffennaf 3ydd rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cynnal ‘REWIND – Dros 30 mlynedd o’r Ŵyl Ryngwladol Serameg yn Aberystwyth’, arddangosiad ar-lein o uchafbwyntiau’r archif a ddewiswyd gennych chi ac sy’n canolbwyntio ar berfformiadau cofiadwy a thaniadau byw ysblennydd. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad byw gan Angela Tait a byddwn yn clywed gan Steve Mattison am flynyddoedd cynnar yr ICF a chyfranogiad y Stiwdio Serameg Ryngwladol yn Kecskemet, Hwngari.
Ar gyfer Dydd Gwener Gorffennaf 2ail, rydym wedi ymuno â COCA (Canolfan Celf Serameg yn Oriel Gelf Efrog) sydd wedi bod yn cynnal symposia rhagorol ar serameg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Gyda’n gilydd byddwn yn cyflwyno ‘Serameg a’r Cyfnod Clo – Perfformiad’, cyfres o gyflwyniadau ar-lein sy’n canolbwyntio ar ‘berfformiad cyfnod clo’ a wnaed gan artistiaid serameg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn lle gŵyl ar y safle, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn agor ei drysau i’r gymuned leol eleni gyda gweithdy cymunedol a gynhelir gan yr arddangoswr 2019 Wendy Lawrence.
Bydd ein holl ddigwyddiadau ym mis Gorffennaf yn rhad am ddim ond bydd botwm rhoi ar gael ar ein gwefan pe byddech yn dymuno cefnogi’r ŵyl yn 2022. Bydd mwy o wybodaeth am raglen y digwyddiad a sut i gael mynediad i’r llif byw ar gael ar ein gwefan yn yr wythnosau nesaf felly cadwch lygad allan!