Gwahoddwyd prifysgolion y DU a sefydliadau Addysg Uwch sy’n cynnal cyrsiau serameg i enwebu unigolion ar gyfer cyfle cyffrous i fod yn rhan o Arddangosiadau Myfyrwyr. Bydd y myfyrwyr hyn yn rhoi arddangosiad o dechneg neu broses serameg a fydd yn digwydd mewn man gwaith pwrpasol mewn pabell fawr ar y safle yn ystod yr Ŵyl.
Noddwyd gan Potclays a Potterycrafts
STUDENT DEMONSTRATORS 2023
Nandini Chandavarkar – Cardiff Metropolitan University
Fel artist serameg ffeministaidd o India, mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar archwilio’r corff benywaidd tameidiog trwy serameg brintiedig. Fel menyw yn fy ngwlad, ‘rwyf wedi profi drosof fy hun sut mae cymdeithas batriarchaidd yn ystyried y ffurf fenywaidd fel un wrthrychol a thameidiog. Gan gyfuno serameg a thechnegau gwneud printiau analog, mae fy null o weithio yn gwyrdroi themâu benywaidd i amlygu’r ffurf fenywaidd dameidiog. Trwy greu esthetig ‘aneglur’ gyda’r odyn, mae’r arwyneb serameg gwasgaredig yn cyfleu’r syniad dealledig o’r fenyw trwy ‘dynnu i ffwrdd’ fy synnwyr o hunaniaeth. Fy nod yw i herio persbectifau traddodiadol ar hunaniaeth a normau rhywedd ac i archwilio’r sylwebaeth ôl-drefedigaethol rhwng India a’r Gorllewin trwy ddelwedd, lliw a chlai.
Maggie Rose David – Cardiff Metropolitan University
Mae Maggie Rose David, sydd wedi ennill gradd BA (Anrh) mewn Dylunio Cynnyrch a Dodrefn o Brifysgol Bath Spa ar hyn o bryd yn gorffen ei gradd MA mewn Serameg a Chreu yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae fy ngwaith yn dathlu’r sgwrs rhwng bodau dynol a thechnoleg. ‘Rwy’n defnyddio torchi dynol fel ‘ffoil’ i dynnu sylw at dorchi technolegol yr argraffydd, gan ddefnyddio teracota gloyw i ddarparu cyferbyniad trawiadol i grochenwaith caled di-sglein y peiriant. Mae cyfuno’r prosesau hyn yn pwysleisio’r cysylltiadau rhwng y dynol a’r gwaith printiedig, yn herio’r ideoleg bod technoleg o fewn celf a chreadigrwydd yn ddi-enaid ac yn anghreadigol.
Sam Lucas – Sunderland University
Ar ôl cwblhau MA yng Nghaerdydd yn 2021 dechreuodd Sam Lucas ar gwrs PhD rhan-amser mewn Serameg a Lles gyda nawdd ariannol gan AHRC ym Mhrifysgol Sunderland gyda Chonsortiwm Northern Bridge. Mae ymchwil Sam yn ystyried amrywioldeb mewn profiad a sut y gellir defnyddio creadigrwydd, yn arbennig trwy gyfrwng clai, fel strategaeth ymdopi yng nghyd-destun iechyd meddyliol. Mae hi’n artist serameg sy’n creu ffurfiau ffiguraidd amwys – nid yw’n creu pethau del. Mae ei gwaith yn ystyried y syniad o fodoli yn y corff a lletchwithdod cymdeithasol ond gyda hiwmor tywyll. Symbylir ei hymarfer gan ei phrofiad personol ei hun a gwylio pobl eraill gydol ei hoes. Yn ystod yr ^Wyl mae’n gobeithio creu polyn totem cylchol mewn clai a gwahodd ymwelwyr i wneud eitem bersonol fechan mewn clai (yn debyg i ddelw neu amwled) yn dilyn y thema ‘Fy nghorff yn fy nwylo’. Gellir gosod yr eitemau mewn cilfachau bychain a dorrir i mewn i’r polyn totem.
Rob Towler – Central St Martins
Mae Rob Towler yn grochenydd sy’n ceisio archwilio ac arloesi technegau creu sefydledig yn y traddodiad crochenwaith slip Prydeinig, trwy ddal amrywiaeth o batrymau wedi eu lluniadau mewn clai hylifol. Mae’n defnyddio ei brofiad o ffermio trefol fel pwynt ysbrydoliaeth, yn enwedig natur ragweladwy ond ansicr y tymhorau sy’n bodoli tra’n gweithio ar a gyda’r tir, gan ddathlu amrywiad yn addurniad arwyneb ei waith. Bydd yn arddangos amrediad o dechnegau slip, gan ganolbwyntio’n bennaf ar suddo potiau caled iawn yn gyfangwbl a dangos dulliau cymhwyso a datrysiadau a luniwyd gan ddefnyddio offer ac eitemau sy’n nodweddiadol o sied yr ardd.
******
Y Broses Ymgeisio Process [caewyd 5 Mai 2023 ]
Rydym yn gwahodd prifysgolion y DU a sefydliadau Addysg Uwch sy’n cynnal cyrsiau serameg i enwebu unigolion ar gyfer cyfle cyffrous i fod yn rhan o Arddangosiadau Myfyrwyr. Bydd y myfyrwyr hyn yn rhoi arddangosiad o dechneg neu broses serameg a fydd yn digwydd mewn man gwaith pwrpasol mewn pabell fawr ar y safle yn ystod amseroedd a drefnwyd dros y penwythnos. Dyma gyfle gwych i hyrwyddo’r cyfleusterau a’r cyrsiau a gynigir a chaniatáu i ddarpar fyfyrwyr siarad â’r myfyrwyr eu hunain i gael blas o’r cyrsiau a gynigir.
Darperir y cyfle hen mewn partneriaeth â Potclays Ltd a noddir gan Potterycrafts Ltd.
Lawrlwythwch yr holl wybodaeth a’r ffurflen gais yma – dyddiad cau yw 5 Mai.
—-
ARDDANGOSIADAU GAN FYFYRWYR YN 2019
Elin Hughes
BA (Anrh) Serameg, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Gweithdy: Taflu a dadadeiladu
‘Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio’r broses draddodiadol o daflu ar olwyn y crochenydd trwy ffrâm gyfoes o ddadadeiladu ac ad-drefnu ffurfiau sydd wedi’u taflu. Rwy’n sleisio, torri a llurgunio’r arwynebau wedi’u taflu, gan droi siapiau y tu chwith allan i archwilio tensiwn yn y clai er mwyn adeiladu potiau cerfluniol deinamig. Hoffwn arddangos dau hanner fy mhroses o wneud. Yn gyntaf, taflu’r darnau rwyf yn eu galw’n ‘gydrannau cerfluniol’ ac yn ail, adeiladu’r darnau yma gyda’i gilydd pan fyddent yn ddigon sych. Mae’r ail hanner yma yn broses gyffrous, anrhagweladwy wrth i mi weithio gyda naws pob siâp newydd, gan fyrfyfyrio a gweithio mewn ymateb i ddisgyrchiant a’r ffordd mae’r clai yn symud.’
Natasha Parker-Edwards
BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol: Celf a Dawns
Ysgol Gelf a Dylunio Caerfaddon
Nod Natasha yw integreiddio agweddau o’i hymarfer dawns gyfoes gyda maes celf gyfoes 3D. Gan ymchwilio i’r byd mewn modd seicogeograffig, ei nod yw archwilio deunyddiau ac arwynebau mewn perthynas â’r corff dynol, yn bennaf gan ddefnyddio’r ymdeimlad o ‘cyffwrdd’. Mae ei gwaith cerfluniol, perfformiadol yn cyfathrebu am ei angstau ei hun ac yn ymchwilio i’r ddeialog rhwng y broses o wneud a’r gweithredu dynol. Ar hyn o bryd mae ganddi ddiddordeb mewn cwestiynau fel ‘Ym mha ffyrdd y mae’r ffiniau rydyn ni’n eu gosod o amgylch ffurfiau celf yn cael eu dychmygu neu yno go iawn?’ A ‘Sut gallai archwilio gwaith sy’n bodoli ar yr ymylon neu groesi’r ffiniau hyn agor posibiliadau creadigol newydd?’.
Bydd Natasha yn cyflwyno ‘Femme Maison (After Bourgeois)’ yn ystod amser cinio yn y Theatr ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae’n bwriadu aros yng Nghaerfaddon neu Fryste a’r cyffiniau unwaith y bydd hi’n graddio gyda nod i ddatblygu’r darn ymhellach. Mae hi hefyd eisiau parhau i ddysgu a chymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol ac yn gobeithio y bydd ei hymdrechion creadigol yn caniatáu iddi deithio yn y dyfodol agos.
Femme Maison (Ar ôl Bourgeois)
‘Mae angen i mi greu pethau. Mae’r rhyngweithiad corfforol â’r deunyddiau yn cael effaith gwellhaol. Mae angen yr actio corfforol arnaf, mae angen i mi gael y gwrthrychau hyn mewn perthynas â fy nghorff. ’Louise Bourgeois (1911-2010).
Cymerwch gipolwg ar fyd yr artist a’r cerflunydd Ffrengig-Americanaidd Bourgeois, trwy’r ymateb symudol yma i rai o’i gweithiau allweddol. Mae’r darn amlddisgyblaethol yn cael ei yrru gan themâu Bourgeois sef rhyw, cartrefgarwch, rhywioldeb ac awydd. Roedd ganddi obsesiwn gyda’r ‘tŷ’ a sut mae pensaernïaeth yn symbol o fyd cymdeithasol sy’n ceisio diffinio unigolion mewn cyferbyniad â byd mewnol emosiynol – syniadau sydd wedi eu plethu â fy angst fy hun fel merch ifanc yn symud i fod yn oedolyn.
Ross Andrews
MRES Serameg
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
GWEITHDY: Crefft ddigidol mewn cydweithrediad â phrosesau sgiliau llaw draddodiadol.
Mae Ross yn ymchwilio i gwestiynau am ymgorfforiad o ran yr ‘cyrhaeddiad’ estynedig sy’n cael eu creu trwy dechnolegau fel y rhyngrwyd. Cymerodd ei ymarfer siâp trwy’r cyfuniad o dechnoleg ddigidol, meddalwedd modelu 3D, CAD a’r sgiliau traddodiadol analog o wneud mowldiau a chastio serameg. Mae’r gwaith yma yn cymryd yn uniongyrchol tir wedi ei ddal yn ddigidol, yn yr achos hwn dyffrynnoedd Cymreig Bannau Brycheiniog, a’i drosi’n llestr. Bydd yr arddangosiad yma yn dangos y sgil o arllwys ac agor mowld plastr, mireinio enghreifftiau wedi’u castio a’u tanio ymlaen llaw, ynghyd ag arddangosiad fideo o’r broses ddigidol y tu ôl i’r gwrthrychau printiedig 3D.
“Rydw i o hyd wedi cael fy ysbrydoli gan bensaernïaeth a dulliau ymestyn digidol o wneud ochr yn ochr â dulliau crefft draddodiadol. Trwy astudio cwrs gradd amlddisgyblaethol, cawsom ein hannog i archwilio
trwy greu a chael gwybodaeth eang am ddeunyddiau a methodoleg alcemig o gymysgu prosesau a deunyddiau. Cymerodd fy ymarfer siâp trwy’r cyfuniad o dechnoleg ddigidol, meddalwedd modelu 3D, CAD a’r sgiliau traddodiadol analog o wneud mowldiau a chastio serameg a metelau trwy ychwanegu pren. I gynhyrchu darnau o waith sy’n herio syniadau cyfoes am grefft a dulliau gwneud â llaw gyda thirwedd hybrid crefft ddigidol. Dim ond ar ôl y 3 blynedd o archwilio dewisais i ganolbwyntio ar gyfrwng
serameg. Wrth ymgymryd â fy ymchwil, mae’r broses o wneud yn ymarferol wedi cymryd rôl lai sylfaenol yn fy ymarfer. Er hyn, rydw i’n dal i greu ac yn credu bod y broses o wneud yn helpu i ddatblygu fy meddwl, pan fydd y dwylo’n gweithio, mae’r meddwl yn rhydd i feddylu ac ystyried y syniadau a’r dadleuon sy’n amgylchynu fy ymchwil.”
Supported by the Arts Council of Wales and Potclays Ltd
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.