Ganed Zoe Preece yn Ne Ddwyrain Lloegr ym 1973. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, gyda’i stiwdio wedi’i lleoli yn Stiwdios yng Nghaerdydd. Astudiodd Serameg yn ei gradd gyntaf yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (2000), cwblhaodd Radd Meistr mewn Serameg hefyd yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (2010), ac ôl-radd addysg ym Mhrifysgol Caerdydd (2013). Mae’n gweithio fel tiwtor serameg i Goleg Iwerydd UWC. Mae Zoe wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cafodd ei dewis ar gyfer AWARD, British Ceramic Biennial (2019), dyfarnwyd iddi Fedal Aur am Grefft a Dylunio, Gwobr Brynu CASW a Gwobr Josef Herman Dewis y Bobl yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (2018) ac enillydd gwobr yr arddangosfa ryngwladol Materials: Hard and Soft, Denver, UDA (2017). Mae ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus gam gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ac Amgueddfa Crefft a Dylunio, Denver, UDA. Ariannwyd Zoe gan Gyngor Celfyddydau Cymru (2019) i greu arddangosfa unigol a aeth ar daith i leoliadau ledled Cymru drwy 2021/22. Ar hyn o bryd mae Zoe yn arddangos gwaith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o’r arddangosfa, The Rules of Art? (2023)
‘Mae fy ngwaith presennol yn cymryd y byd domestig fel man ymchwil. Rwy’n gwneud bywydau llonydd agos-atoch ond eto dienw sy’n siarad am y cyffredin a’r dynol. Trwy ganolbwyntio ar wrthrychau domestig bob dydd a golygfeydd cyffredin, mae fy ngwaith yn ceisio ymgysylltu ag agweddau anniriaethol, annifyr ac emosiynol bywyd trwy brosesau materol a ffurf.
Mae ffurfiau cerameg yn cael eu cerfio o blastr ar y turn neu â llaw, cyn eu mowldio a’u castio mewn porslen gwyn mân; defnyddir gwres yr odyn i chwilio am eiliadau o hylifedd. Rwyf hefyd yn gweithio ar y cyd â Fablab Caerdydd gan ddefnyddio eu technolegau sganio 3D a melin CNC i gynhyrchu tableaux pren sy’n gweithredu fel rhannau ar gyfer darnau dodrefn.’
Ffotograffiau: Dewi Tannatt Lloyd
Noddir gan South Wales Potters group
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2025 all rights reserved.