Derbyniodd Wendy Lawrence BA mewn dylunio 3D (Serameg) gan Brifysgol Ganolog Swydd Gaerhirfryn yn 1998, ac ers hynny mae wedi dysgu serameg a chynnal gweithdai ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol. Mae hi wedi cymryd rhan mewn symposiwm a gweithdai ym Mhrydain, Ewrop ac America ac roedd hi’n artist gwadd yn yr Ŵyl Serameg Ryngwladol, Aberystwyth, yn 2003. Mae ganddi ddiddordeb mewn gweadau ffurfiau daearegol naturiol y mae’n eu harsylwi ar ei theithiau cerdded yng Ngogledd Cymru lle mae’n byw (Sir Ddinbych). Mae hi’n arbrofi gyda gwydredd gan ddefnyddio sylweddau adweithiol iawn i greu arwynebau gweadog cyfoethog i ennyn strwythur naturiol strata creigiau. Mae hi’n tanio’r gwaith i 1260C mewn odyn drydan, gan amrywio faint o ocsigen sydd yn yr awyrgylch.
“Mae fy serameg yn elfennaidd a folcanig, gan geisio gorliwio ffurf a gwead sy’n amlwg yn y broses ddaearegol. Mae gweadau a lliwiau’n cael eu dwysáu; gan fframio nodweddion natur ym mhob darn.
Rwy’n byw ger arfordir a mynyddoedd Gogledd Cymru – wedi ymgolli mewn daeareg sy’n parhau i fod yn ganolbwynt i mi. Mae’r diddordeb hwn wedi esblygu i fod yn werthfawrogiad o ffurf a gwead naturiol yn ei gyfanrwydd. Rwyf wedi bod yn dogfennu daeareg, ffurf, arwyneb a gwead trwy arlunio, ffotograffiaeth a chasglu gwrthrychau a ddarganfuwyd ers blynyddoedd. Mae fy ngwaith hefyd wedi’i ysbrydoli gan fonolithau, cylchoedd cerrig, cafnau ac olwynion: ffurfiau sy’n dal mawredd carreg.
Fe wnes i fwynhau digymelldeb y clai i ddechrau, gan daro a churo clai i mewn i ffurfiau tebyg i gafn. Mae fy ngwaith wedi esblygu’n raddol ac mae’n dod yn fwy gweadog ac wedi’i gerfio’n ofalus. Rwy’n gwneud ar gyfer y mwynhad o’r deunydd, ochr yn ochr â’r awydd i fynegi rhinweddau carreg ac felly mae gen i amrywiaeth o dechnegau adeiladu â llaw. Rwy’n cafnu darnau solet, adeiladu hefo slabiau, coilio, siapio slabiau tu fewn i fowldiau a ffurfwyr ac yn cerfio darnau solet o glai.
Mae fy ngwaith diweddaraf yn cyfuno symlrwydd ffurfiau a gweadau elfennau cerfiedig a geir o fewn erydiad, gan ganolbwyntio ar ddarnau cerfluniol nad ydynt bellach dim ond yn rhan o’r arwyneb ond sy’n dod yn rhan o’r ffurf ei hun.
Rwy’n defnyddio amrywiaeth o wahanol wydreddau folcanig yr wyf yn haenu ar y darnau serameg. Rwyf hefyd yn ychwanegu Ocsidau: Copr, Fanadiwm a Titaniwm o dan a thros y gwydreddau. Mae Silicon Carbide yn y gwydredd yn creu nwy wrth danio ac mae hyn yn creu’r swigod a’r pothelli. Mae haenau o wydrau ac adeiladu arwyneb dros y clai sydd wedi’i gerfio’n drwm yn cynyddu’r edrychiad folcanig ymhellach ond hefyd yn creu ymdeimlad o graig hynafol ac erydiad naturiol. Mae fy ngwaith yn cael ei arddangos mewn lleoedd mewnol a/neu allanol.
Pan wnes i gwblhau fy ngradd, enillais Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ac rwy’n parhau i ddysgu pob oedran a gallu. Mae addysgu wedi bod yn ffordd hyfryd o barhau â fy nysgu fy hun a rhannu fy ngwybodaeth ag eraill o oedrannau a lefelau gwahanol, sy’n fraint wirioneddol. Ar hyn o bryd rwy’n dysgu Serameg ar y Rhaglen Celfyddydau Cymhwysol ym Mhrifysgol Glyndŵr yng Ngogledd Cymru.
Rwyf hefyd yn cynnal cyrsiau penwythnos yn fy nghartref a stiwdio, gweithdai mewn ysgolion a Chanolfannau Crefftau. Rwy’n mwynhau byw yng Ngogledd Cymru am lawer o resymau, mae’r dirwedd yn ffactor amlwg ond hefyd cydweithrediad ffrindiau, cydweithwyr a phartneriaid creadigol. Mae clai wedi ac yn parhau i agor cymaint o gyfleoedd ac rydw i wir yn mwynhau’r daith.”
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.