Mae gwaith Toni Losey yn hymian gyda cherrynt sylfaenol o rythm a threfn. Mae’r ailadrodd a geir ar olwyn y crochenydd yn dylanwadu ar ei gwaith wrth iddi adeiladu ffurfiau cerfluniol yn reddfol sy’n adlewyrchu patrymau tyfiant byd natur. Mae’r gweithiau hyn yn esblygu o fewn set o reolau a ddatblygwyd o’i dehongliad personol o’r byd naturiol.
Wrth iddi geisio uno proses technegol gyda dawn gysyniadol, mae’r gwaith sy’n dod i’r amlwg fel pe bai’n bodoli y tu allan i’r gwneuthurwr, rhywbeth arallfydol ond organig, cyfarwydd ond newydd. Mae gwaith Losey yn cyfleu dilyniannau naturiol a geir ym myd natur ac yn anelu at adnewyddu ein cysylltiad â’r blaned.
Mae Losey, a anwyd yng ngwastatir Canada ym 1977, yn byw ac yn gweithio bellach yn Halifax, Nova Scotia, Canada. Mynychodd Brifysgol Gelfyddydau Alberta ac hefyd Coleg Celf a Dylunio Nova Scotia lle derbyniodd ei BFA.
Arddangosir gwaith Losey yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd megis Design Miami, Collect London, NCECA, a Chelf Serameg Llundain. Fe’i henwyd yn un o Artistiaid Newydd mwyaf Addawol 2020 yng nghylchgrawn Ceramics Monthly; ‘roedd ar restr fer Gwobr Winifred Shantz 2020 ac mae ei gwaith wedi’i gyhoedd yn Ceramics Monthly, De Kleine, D. Repubblica, a Ceramic Review.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.