Ganwyd Thomas Bohle ym 1958 yn Dornbirn, yng ngorllewin Awstria. Ar ôl hyfforddi fel nyrs, gweithiodd am flynyddoedd lawer yn y maes proffesiynol hwn. Ym 1987 cwblhaodd brentisiaeth fel seramegydd ac wedyn gweithiodd mewn gwahanol weithdai. Ym 1991 agorodd ei stiwdio gyntaf. Yn dilyn taith astudio i Siapan arddangoswyd ei waith yn Tokyo a Shanghai. Yn 2006, derbyniodd Thomas Bohle Wobr Talaith Bafaria. Wedyn yn Llundain, cafodd ei gynrychioli gan oriel adnabyddus. Ers 2008, mae Thomas wedi bod y gweithio yn ei stiwdio newydd yn Dornbirn. Yn 2014 derbyniodd y wobr anrhydeddus am gelf gan dalaith Vorarlberg.
Yn Lloegr ym 1984, yn 26 oed, mae Thomas Bohle yn eistedd wrth droell crochenydd am y tro cyntaf. Mae’r cyswllt â chlai a’r teimlad o greu gyda’i ddwylo ei hun yn ei gyffwrdd ac yn dechrau ei lwybr artistig. Mae’n ei ddilyn yn gyson, yn dysgu crefft y seramegydd. Mae’n arbrofi, yn chwilio ac yn ymchwilio – yn delio’n ddwys gyda ffurfiau ac arwynebau traddodiadol, gan greu sylfaen gyfoethog. Mae’r potiau waliau-dwbl cyntaf yn cael eu creu ac yn denu sylw yn y byd celf proffesiynol. Yn raddol, mae iaith arbennig yn ffurfio – ffurf unigryw’r artist o fynegi ei hun. Mae’r daith astudio i Siapan yng nghwmni’r ffrind a chyswllt pwysig Uwe Löllmann yn dod ag ysbrydoliaeth a chydnybyddiaeth i’r gwaith. Mae gwerth artistig y darnau yn arbennig o amlwg yn yr arddangosfeydd yn Tokyo a Shanghai yn 2004. Mae genedigaeth ei fab Clemens ym 1989 yn cael effaith ddofn ac yn gadael ôl byw iawn.
Dros y blynyddoedd, mae gofod rhyngwladol wedi agor i fyny, yn bennaf trwy gynrychioli a chyflwyno’r gwaith yn Llundain. Mae’r stiwdio yn Dornbirn yn lle disglair. Dyma’r lle y mae serameg yn cael ei chreu, lle mae siapiau ac arwynebau newydd yn cael eu ffurfio. Mae llwybr tawel a phwerus yn parhau.