Mae’r bywyd nomadaidd y mae Theodora wedi byw ers ei phlentyndod cynnar yn ei gwneud hi’n ddinesydd y byd. Astudiodd serameg yn Llundain, Faenza a Genefa. Arddangoswyd ei gwaith yn rhyngwladol ac mae wedi derbyn sawbl wobr. Mae ei gwaith yn amrywio rhwng gwrthrychau a gosodiadau, eitemau defnyddiol a chysyniadau, traddodiad bythol a dad-adeiladu’r ffurf. Mae hi bellach yn byw gyda’i theulu ac yn ymarfer ei chelf yng ngwlad ei chyndadau ar ynys Aegina.Mae hi hefyd yn cyfleu ei chariad tuag at serameg trwy ddysgu yn ogystal â chyd-drefnu arddangosfeydd, gweithdai a symposia serameg rhyngwladol.
‘Mae fy ngwaith yn archwilio dirgelwch bywyd trwy ei fateroliaeth.
Mae’n sefyll ar y rhyngwyneb rhwng y meirw a’r byw: o’r esgyrn, fel creiriau a ganfyddaf mewn natur, yn tyfu cyrff newydd; o’r ddaear lle mae popeth yn dychwelyd, mae endidau newydd yn dod i’r amlwg yn dragwyddol. ‘Rwy’n symud ymlaen yn reddfol, yn cael fy herio gan derfynau deddfau corfforol. Mae fy ngherfluniau yn crybwyll yn hytrach na diffinio, yn aros yn agored i amrywiaeth ffurfiau byw.
Maent yn cyfleu fy awydd i gyffwrdd â’r “rhyng-fodoli” mewn ffyrdd annisgwyl. Nid fy nghefndir fel artist ond yn hytrach yr anhysbys sy’n arwain y ffordd. Ceisiaf wrando ar ehangder y foment bresennol ac mae’r sefyllfa anghyfforddus, anwadal hon yn agor i fyny mannau newydd lle y gall un gael ei drawsffurfio.’
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.