logo

Cynaliadwyaeth o fewn Serameg: Prosiect Arbennig gyda Elif Ağatekin (Twrci) & Bonnie Grace (Cymru)

Delwedd: Bonnie Grace


Waste Not Want Not- Upcycled in Wales

Mae’n bleser gennym gyhoeddi prosiect arbennig a ariennir gan y Cyngor Prydeinig, ar y cyd ag ICF Aberystwyth, Amgueddfa Nantgarw a Chanolfan Grefft Rhuthun. Yn seiliedig ar thema teilchion wedi’u hailgylchu a ddarganfuwyd yng Nghymru, bydd Elif Ağatekin (Twrci) sy’n enwog am ei cherfluniau o ddeunydd cerameg wedi’i ailgylchu yn gweithio gyda Bonnie Grace, artist newydd o Gymru.  Bydd y cyfnod preswyl yn cynnwys gweithdai allgymorth gydag arddangosfa yn yr Oriel Serameg, Aberystwyth, ac arddangosfeydd yn Nantgarw a Rhuthun.

Date: November 29, 2024