Mae Sung Jae Choi yn gwneud potiau yn y traddodiad Coreaidd o ‘buncheong ware’, gydag addurniad wedi paentio; mae ei weithiau’n atgof pwerus o esthetig ei wlad. Yn aelod o’r Academi Serameg Ryngwladol, ar hyn o bryd mae’n athro ym Mhrifysgol Genedlaethol Corea. Yn ystod ei arddangosiad bydd yn gwneud amrywiaeth o wahanol fathau o blatiau mawr, poteli wedi eu fflatio, poteli sgwâr wedi’u hadeiladu â slabiau a jariau mawr. Bydd hefyd yn arddangos lluniadu hefo’i bysedd ar arwyneb y potiau gyda slip gwyn, patrwm brithaddurnedig wedi’i stampio, patrwm brithaddurnedig â llinell, slip gwyn wedi’i frwsio a phatrwm endoredig ac arllwys slip gwyn neu drochi i mewn i slip gwyn a lluniadu hefo bysedd.