Mae Sandy Brown yn ‘un o unigolwyr mawr serameg Prydain … Ei galwedigaeth mewn serameg (yw) ei gallu i ryddhau syniadau trwy glai a gwydredd.’ (David Whiting) Astudiodd Sandy Brown Grochenwaith Daisei yn Mashiko Japan a’r hyfforddiant trwyadl hwn, ynghyd â rhai agweddau defodol o fywyd fel y seremoni de a brofodd yno, dylanwadodd yn gryf ar ei datblygiad. Fodd bynnag, mae ei harddull hynod bersonol a gwreiddiol – craff, afieithus a bywiog ar yr un pryd – yn dangos cymysgedd gyfoethog o ddylanwadau o ddiwylliant gweledol cyfoes, wedi’u cymhathu dros oes yn mireinio ei thechnegau a’i dull o greu. Gan wneud gwrthrychau swyddogaethol a cherfluniau, nid oes arni ofn creu ar raddfa fawr – gellir gweld ei gosodiad ‘The Still Point & the Dance’ yn Oriel 1 yn ystod yr Ŵyl. Ar gyfer ei harddangosiad, mae Sandy yn bwriadu gweithio ar ddarnau ar raddfa fawr a bach, a bydd yn dangos ei thechneg ‘’gadael i fynd’ o wydro.