Mae Sabine Classen yn creu ffurfiau sfferig cerfluniol sydd ar hyn o bryd yn cael eu hysbrydoli gan symudiadau parhaus marciau a phatrymau Celtaidd. Mae’r cwlwm ‘trefoil’ gofodol yn ffurfio sylfaen ei gwaith. Mae hi’n creu’r siâp allan o wifren y mae hi wedyn yn ei llenwi ag arwynebau amgrwn a cheugrwm, nes bod siâp newydd yn ymddangos. Gan ddefnyddio tri symudiad ‘lemniscatory’, mae cerfluniau Sabine Classen yn cyflawni cydgysylltiad ffurf sfferig allanol a sffêr wag wedi’i lleoli’n fewnol. Bydd cerflun tân geometregol cymhleth yn cael ei arddangos nos Sadwrn.