Mae Ruthanne Tudball, sy’n wreiddiol o California, yn un o grochenwyr gwydrog soda arweinyddol y DU. Bydd hi’n arddangos gwahanol ffurfiau a dulliau o wneud, taflu gyda chlai meddal ar yr olwyn; taflu elfennau o botiau ‘off the hump’, eu trin, e.e. ‘faceting’ a newid eu siâp, a’u cydosod tra yn wlyb cyn codi’r pot gorffenedig oddi ar yr olwyn. “Mae fy holl waith yn cael ei daflu a’i drin tra’n wlyb ar yr olwyn. Mewn ymgais i ddal y synnwyr o feddalwch yn y darn gorffenedig, ychydig iawn o droi (trimio) ydw i’n ei wneud, a phan fydd y troi’n cael ei wneud, mae’n digwydd yn bennaf yn y cam meddal. Ar ôl tanio a thrawsnewid y clai i serameg, gellir dal weld y meddalwch hwnnw.”