Mae Rita Gudino yn Athro ym Mhrifysgol y Philipinau, Coleg y Celfyddydau Cain (UP CFA), Dinas Quezon, Y Philipinau. Mae Rita yn cael ei ddylanwadu gan rofiadau cryf, yn ogystal â’r rhai mwyaf cyffredin, i greu ei gwaith. Mae hi’n cael ei chymell i fynegi a rhannu’r nifer o agweddau ohoni ei hun trwy gelf: fel gwraig, mam, athro, gweinyddwr ac artist. Bydd hi’n adeiladu odyn cerflun LUAL ac yn ei thanio mewn perfformiad yn ystod yr Ŵyl. Odyn raku fydd hon mewn siâp menyw sy’n rhoi genedigaeth i ffigurau clai wedi eu tanio y tu fewn, yn ystod perfformiad arbennig ar y dydd Sadwrn. Bydd Gudino hefyd yn cynnal gweithdy arbennig ar y 23ain o Fehefin i wneud babanod clai i gael eu tanio yn yr odyn yn ystod yr ŵyl. “Yr amcan yw trosgynnu’r broses o danio i mewn i ffurf gelf ei hun. Mae LUAL yn waith nad yw bellach yn wrthrych ond yn broses. Bydd yn creu’r amodau ar gyfer profiad, gan ddatgelu’r honiad trosiadol bod grym, pŵer, uchafiaeth a rhyfeddod rhagweladwy tanio odyn yn enedigaeth. Mae LUAL yn ‘Magnificat’ i rôl y fenyw wrth ddod â bywyd i’r byd, sydd yn wyrth, gan gynnig bywyd i roi bywyd.”
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.