Credit y ddelwedd: Sylvain Deleu
Yn fuan ar ôl graddio o UCA Farnham yn y 00au cynnar, cymerodd Rich awenau Foyle Tiles, cynhyrchwr llaw o deils crochenwaith. Yn ystod yr ugain mlynedd o fod yn berchen ar Foyle bu iddynt gyflawni amrywiaeth o gomisiynau mawreddog, gan gynnwys y Pafiliwn newydd yn Oriel Tate yn St Ives, siop anrhegion The V&A (mewn cydweithrediad â Fferm Grymsdyke) a’r 24 Saville Row rhyfeddol, ar y cyd â’r artist cerameg Kate Malone ac EPR.
Mae serameg Rich ei hun yn cyfeirio at batrymau dylunio hanesyddol. Mae’n tynnu ar themâu Gwladychiaeth Brydeinig a’r ffordd y mae’r DU wedi’i chyfoethogi gan gymysgedd eclectig o arddulliau diwylliannol, wrth i fudo ddod â ffynhonnell o ddylanwad cyfoethog yn ei sgil. Delweddau a naratifau sy’n gysylltiedig â’r trefedigaethau, a phrofiadau personol fel dinesydd Prydeinig yw’r dylanwad craidd o fewn gwaith Rich.