Ar ddechrau ei gyrfa serameg, archwiliodd Patty Wouters o Wlad Belg y wahanol fathau o glai a thechnegau tanio. Yn y pen draw canolbwyntiodd yn bennaf ar wneud llestri wedi’u taflu mewn porslen, wedi’u gorffen â terra sigillata, wedi’u tanio mewn saggar. Trosiadau yw ei llestri am fodau sy’n chwilio am hunaniaeth a chydbwysedd, wrth gyfathrebu â’u hamgylchedd. Mae ei gwaith yn cynnwys symbolaeth gyfoethog.
Dechreuodd mwy a mwy o elfennau porslen tanio uchel fod yn rhan o’i gwaith. Archwiliodd bosibiliadau porslen papur ac arbrofodd gyda deunyddiau organig â integreiddiodd i’w gwaith a oedd ar ffurfiau mwy cerfluniol. Mae bregusrwydd pobl a natur yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn ei gwaith presennol. Porslen yw’r deunydd amlycaf iddi: mae’r deunydd ei hun yn dangos breuder trwy ei rinweddau hanfodol, sef gwynder tenau a thryloywder.
Arddangosodd Patty Wouters yn eang yn ei gwlad, yn ogystal ag yn Ne Korea, Awstralia, Ffrainc, yr Eidal a’r Iseldiroedd. Ers 1993 cymerodd ran mewn nifer o arddangosfeydd grŵp rhyngwladol ac mae ei gwaith wedi derbyn nifer o wobrau yn yr Eidal, Bwlgaria, De-Corea, Sbaen a Gwlad Belg.
Mae ganddi brofiad helaeth o ddysgu mewn academïau celf a phrifysgolion gartref a thramor. Mae hi’n ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyfnodolion proffesiynol a gofynnir amdani yn aml fel curadur ac aelod rheithgor. Mae hi’n aelod o’r IAC (Academi Rhyngwladol y Seramwyr)
Gwefan:www.pattywouters.be