Mae Patricia Fay yn Athro Celf mewn Serameg ac yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ysgol Gerdd a’r Celfyddydau Bower ym Mhrifysgol Gulf Coast Florida yn Fort Myers, Florida, UDA. Mae ei chyhoeddiad diweddar ‘Creole Clay: Heritage Ceramics in the Contemporary Caribbean’ yn dogfennu pum mlynedd ar hugain o ymchwil gyda chrochenwyr yn y rhanbarth. Pan nad ydy hi’n dysgu nac yn teithio mae gwaith stiwdio Fay yn amrywio o botiau swyddogaethol yn seiliedig ar ffurfiau hanesyddol wedi tanio â phren, at osodiadau cyfryngau cymysg sy’n dogfennu goroesiad corwyntoedd.
TEITL DARLITH: Yn Ddwylo’r Crochenwyr: Olrhain Treftadaeth Ddiwylliannol yn y Caribî Cyfoes
Mae dulliau cynhyrchu serameg yn darparu mecanwaith unigryw ar gyfer olrhain diwylliant wedi’i ddadleoli i’w fan cychwyn. Mae penodoldeb strategaethau paratoi clai ac adeiladu potiau, a dyfalbarhad amlwg y technegau hyn dros amser, yn cynnig ffordd hynod gywir o adnabod treftadaeth serameg. Mae’r dulliau adeiladu coil a ddefnyddir gan y crochenwyr benywaidd Choiseul, Saint Lucia yn anwahanadwy oddi wrth y rhai sydd wedi’u dogfennu ymhlith pobl Bafia Camerŵn. Yn Nhrinidad, mae crochenwyr gwrywaidd sy’n ddisgynyddion i labrwyr De Asia yn cynnal technolegau olwyn ac odynau etifeddol ar gyfer cynhyrchu potiau defodol Hindŵaidd.
Mae’r olwynion dau berson, gwydreddau plwm ac odynau pren Barbados yn union yr un fath â’r rhai a ddefnyddir gan grochenwyr gwledig Lloegr, fel dysgwyd i gaethweision Affricanaidd ar yr ynys gan grochenwyr gwyn mor gynnar â chanol yr ail ganrif ar bymtheg. Trwy ddelweddau, cyfweliadau a fideo bydd y ddarlith hon yn archwilio’r cymynroddion byd-eang rhyfeddol a gedwir yn nwylo crochenwyr cyfoes y Caribî.
Portread ICF o Patricia Fay
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.