“Rwy’n gwneud darnau cerfluniol yn seiliedig ar geometreg ffurfiau naturiol. Ar hyn o bryd rwy’n defnyddio porslen fel fy mhrif ddeunydd. Mae’r ffurfiau cerfluniol yn cael eu hadeiladu’n araf dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd, ac yn cael eu tanio nifer o weithiau yn ystod y broses o greu.
Mae fy ngwaith yn cyfuno patrymau rheolaidd â nodweddion ffurfiau ffractal o natur. Mae’r siapiau gorffenedig yn ganlyniad o ymateb greddfol i’r cyfeiriad y mae’r patrwm yn ei gymryd yn ogystal â’r afreoleidd-dra yn yr elfennau o’r patrwm wedi’u gwneud â llaw.
Mae gen i ddiddordeb yn y cyferbyniadau a’r tebygrwydd rhwng estheteg draddodiadol y Gorllewin, a geisiodd bortreadu harddwch trwy geometreg glasurol, ac estheteg harddwch y Dwyrain/Bwdhaidd, sy’n dathlu’r amherffeithrwydd. Teimlaf fod yr ardal gyffredin a gydnabyddir gan y ddau draddodiad hyn yn gorwedd rhwng cymesuredd clasurol mewn geometreg reolaidd a’r nodwedd o hunan-debygrwydd mewn geometreg afreolaidd, hynny yw; harddwch ffurfiau cydnaws sydd yn cael eu creu trwy ailadrodd cyfran.
Fy ngobaith yw bod fy ngwaith yn cyfleu ymdeimlad o egni a bywyd trwy gyfuniad o’r defnydd o batrymau haniaethol a geometreg ffurfiau naturiol.
Rwy’n defnyddio lluniadau/ffotograffau/collage ac ati o ffurfiau naturiol yn ogystal ag ymchwil i hanes a seicoleg estheteg ffurf a phatrwm i ddatblygu fy ngwaith. Mae gen i hefyd lawer iawn o ddeunydd rydw i’n tynnu arno o fy ymchwil yn ystod fy astudiaethau MA yng Ngholeg Celf a Dylunio Crawford.”
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.