Ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Celf Derby, ehangodd Nic Collins ei brofiad trwy weithio fel taflwr mewn crochendai yn yr Eidal a’r Almaen. Yn 1988 symudodd i Ddyfnaint a sefydlu ei weithdy cyntaf yn Powdermills ac yn 2000 symudodd i Moretonhamstead. Ymatebodd i’r amgylchedd gwledig gwyllt trwy wneud potiau yn aml gyda clai o ffynhonellau lleol a thechnegau tanio hefo pren. Mae traddodiadau ac odynau crochenwaith hŷn yn dylanwadu arno ynghyd ag addasiadau ac arbrofion i greu gwaith cyfoes. Mae’n rhan o grŵp o tanwyr pren arbrofol gan gynnwys y crochenwyr Clive Bowen a Svend Bayer sydd weithiau’n cynorthwyo wrth danio odynau ei gilydd. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau hir a llafurus, sydd yn cynnwys ffrindiau’n gweithio mewn shifftiau 6 awr, yn para hyd at 80 awr ac yn tanio i dymheredd o 1300C. Mae’n brwdfrydig am yr effeithiau a gyflawnir gan wahanol glai, gwydredd lludw a shino a thaniadau lluosog i greu arwynebau hefo gweadau amrywiol. Mae ei waith newydd yn cynnwys darnau cerfluniol mawr wedi’u tanio gan ddefnyddio clai gwlyb. Yng Ngŵyl Ryngwladol y Crochenwyr 2005, adeiladodd Nic Collins odyn anagama arbrofol dros ddau ddiwrnod ac yna ei thanio dros dri diwrnod. Ar gyfer ICF 2019 bydd Nic yn gwneud odyn traws-ddrafft pren ‘groundhog’. Noddir y gweithgaredd hwn gan Cromartie Hobbycraft.
“Dechreuodd fy niddordeb mewn tanio hefo pren mor gynnar â fy mhrofiadau cyntaf gyda chlai. Dechreuais yng nghanol y 1970au, gan adeiladu a thanio odynau pren syml. Astudiais yn Derby o dan arweiniad y pennaeth serameg Keith Maskell. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn fy mod i wedi bod yn Derby yng nghanol yr 80au. Roedd yr hyfforddiant a roddwyd yn gynhwysfawr iawn ac yn ymwneud yn bennaf â serameg traddodiadol wedi taflu ar olwynion. Yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr, manteisiais yn fawr ar y pentwr o friciau tân yn iard yr odyn, gan adeiladu a thanio llawer o odynau.
Ar ôl blynyddoedd lawer mae fy ngwaith wedi newid yn ddramatig, yn ogystal â’r dulliau rwyf yn defnyddio i ddylunio a thanio fy odynau. Mae fy mhotiau, er eu bod yn dal i gael eu taflu, wedi dod yn ddarnau unigryw, mwy cerfluniol. Maen nhw’n cael eu creu i fanteisio ar yr awyrgylch cythryblus yn yr odyn anagama. Mae’r odyn a’r tanio wedi fy ysbrydoli i wneud potiau unigol, sy’n gwario 3-4 o ddiwrnodau yn yr odyn ar dymheredd o 1320C + gyda lludw tawdd yn cyfuno hefo’r arwyneb a’r fflam boeth yn taro’r pren. Dadansoddir canlyniadau pob tanio fel arfer gan ddatgelu cyfrinach gudd newydd bob tro sydd yn fy ysbrydoli ymhellach yn yr antur di-ddiwedd o ddysgu am dan yr odyn anagama.
Pam tanio â phren?
Mae’n gwestiwn, yr wyf yn aml yn ei ofyn i mi fy hun, fel arfer pan fyddaf wrth ymyl crochenydd mewn ffair sydd yn creu potiau addurnedig mewn lliwiau llachar sydd yn gwerthu’n dda ac yn boblogaidd dros ben. Yn aml iawn dwi’n clywed sylwadau negyddol gan bobl sydd ddim hyd yn oed yn cymryd amser i stopio ac edrych!
Mae fy mywyd cyfan wedi bod ar gyrion ‘normal’, dyna ddwi’n ei fwynhau! Pam na allaf wneud potiau sy’n gwerthu’n hawdd? Ond yna weithiau bydd rhywun arall yn gweld y tu hwnt i ffasâd y pot brown ac yn mynd i mewn i barth y llu o liwiau cynnil, gweadau a marciau fflam hudolus a chreithiau. Mae pob pot o’r taniad hir yn cofnodi stori’r tân yn falch, gyda phrofiad mae’r rhain yn rhoi mewnwelediad o atgof pell o’r pot hwnnw wedi’i leoli yn yr odyn gyda’r gwres gwyn ar ôl 4 diwrnod o danio.
Dechreuaf ddeall ei stori, y fflam uniongyrchol yn taro tu blaen y pot ac wedyn yn dawnsio ac adlamu o’r pot y tu ôl – y lludw tawdd yn dechrau symud yn fertigol i lawr ochr y pot – y gronynnau ffelsbar, wedi’u tylino i’r clai, yn ddechrau toddi a thalgrynnu yn y gwres eithafol. Mae’r holl wybodaeth yma yn cael ei storio a gellir ei hadennill i ddarllen y pot. Ond hefyd mae’r gerwinder, noethni, yr esgyrn yn dal i fod yno i bawb edrych arnyn nhw! Rwy’n edmygu gonestrwydd y pot wedi’i danio â phren.
Mae llawer o fy mhotiau wedi’u gwneud â chlai a allai fod yn anodd ei ddefnyddio, clai wedi’i gymysgu’n ffres neu efallai glai gyda cherrig ynddo, gan ei bod yn ymddangos nad yw’r clai mwy amrwd a mwy unigryw ddim yn ymateb yn dda ar yr olwyn, yn cymryd eu ffurfiau gwrthryfelgar eu hunain a fy ngorfodi i weithio gyda nhw. Dyma’r potiau rwy’n eu mwynhau fwyaf, bron ar fin cwympo, effallai rydw i’n gorfod ychwanegu mwy o glai at y toriad mawr yn datblygu yn wal y pot. Mae hyn yn fy atgoffa o “adeiladu cymeriad”, nid yn wahanol i’r treial bywyd y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei brofi, i lawr ar eich pengliniau er mwyn codi’ch hun i fyny eto a dod yn gryfach o lawer yn barod ar gyfer yr ymosodiad nesaf. I mi mae pob tanio yn antur, yn mynd i’r afael â’r anhysbys.
Hoffwn orffen gyda’r cyflwyniad o lyfr Jack Troy’s ‘Wood-Fired Stoneware and Porcelain’, a gymerwyd o Norman MacLean, ‘A River Runs Through It’:
“Weithiau mae peth o’ch blaen mor fawr fel nad ydych chi’n gwybod a ddylid ei ddeall trwy gael synnwyr aneglur o’r cyfan yn gyntaf ac yna ffitio’r darnau i mewn, neu drwy ychwanegu’r darnau nes bod rhywbeth yn galw allan beth ydyw.”
Ar gyfer ICF 2019, bydd Nic yn gwneud odyn traws-ddrafft pren arddull ‘groundhog’. Noddir y gweithgaredd hwn gan Cromartie Hobbycraft.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.