logo

Louise Bell – Lloegr

Credyd y ddelwedd: David Stacey


Mae Louise Bell yn gwneud cerfluniau seramig wedi’u hadeiladu â llaw gydag arwynebau aml-haenog. Mae pob un o’i phrosiectau yn esblygu o’r prosiect blaenorol. Ysbrydolwyd y prosiect ‘Teganau Hynafol’ gan apêl gyffredinol teganau, gyda ffynonellau’n dyddio’n ôl cyn belled â 1500 CC. Dywed Louise am y darnau ‘Teganau Hynafol’: “Rydw i eisiau gwerthfawrogi teganau eiconig sydd wedi esblygu dros ganrifoedd ac ar draws cyfa
ndiroedd ac eto wedi newid cyn lleied o ran siâp a phwrpas. Mae’r gwydredd lithiwm pefriog yn berffaith ar glai pridd i roi effaith arteffactau gwerthfawr a gloddiwyd o’r ddaear.” 

 

Allan o’r prosiect ‘Teganau Hynafol’ daeth y gyfres ‘Adfywio’. Daeth yr anifeiliaid ar y teganau tynnu  yn anifeiliaid totemig sy’n cario symbolau o obaith am yr amgylchedd. Mae gan y prosiect ‘Rhywogaethau Mewn Perygl’ hefyd gysylltiadau clir â ‘Teganau Hynafol’. Mae’r anifeiliaid mewn perygl yn cael eu darlunio fel teganau i ddangos y gall cynrychioliadau o’r anifail byw fod y cyfan sydd ar ôl os nad yw bodau dynol yn newid eu gweithredoedd.

Astudiodd Louise Gelfyddyd Gain a Chymhwysol yng Ngholeg City Lit, Llundain a chwblhaodd radd Meistr mewn Crefft, gan arbenigo mewn cerameg ym Mhrifysgol Brighton. Yn 2019 cymerodd ran yn Rhaglen Hothouse y Cyngor Crefft.


Gwefan: www.louisebellceramics.com

Instagram: @louisebell_ceramics
Date: November 29, 2024