Graddiodd Liming Zhang o Adran Cerflunio Prifysgol Serameg Jingdezhen yn 2011. Ynghyd â Masakuzu Kusakabe, adeiladodd odyn tanio pren di-fwg cyntaf Tsieina yn Y Gweithdy Serameg yn Jingdezhen yn 2008. (Roedd Masakuzu Kusakabe yn arddangoswr yn yr ICF yn 2009). Yn 2010, cynhyrchodd odyn bren fach y gellid ei defnyddio ar gyfer tanio a ddaeth i fod ei ddyluniad ar gyfer graddio. Yn 2012, dechreuodd Zhang Liming astudio odynau cerflun gyda’r artist o Taiwan, Wu Qizheng. Cynhyrchwyd nifer o odynau cerflun ar ôl profion tanio lluosog rhwng 2012 a 2014.
Yn 2016, fe wnaethant sefydlu eu stiwdio eu hunain yn Jingdezhen. Mae’r stiwdio yn darparu cefnogaeth dechnegol yn bennaf ar gyfer gweithgareddau’r cwrs ar danio ac adeiladu odynau tanio hefo pren. Ers 2017, mae cyrsiau a gweithgareddau odyn fach wedi cael eu cynnal yn Hong Kong.
Bydd Liming yn dangos sut i wneud ei odyn fach yn yr Ŵyl.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.