Treuliodd Keith Brymer Jones ei brentisiaeth fel crochenydd yn 18 oed yn Llundain lle dysgodd sgiliau traddodiadol y grefft. I ddechrau bu’n creu serameg a wnaethpwyd â’r llaw gan werthu i adwerthwyr dylunio fel Conran a Habitat ond erbyn hyn mae’n fwyaf adnabyddus am ei nwyddau cartref ‘Word Range’ gyda’u motiffau testun ffraeth a gynhyrchir yn Tsieina ac a werthir ledled y byd.
“Mae f’athroniaeth ddylunio yn un syml; ‘rwy’n mwynhau creu eitemau steilus ond syml sy’n ddeniadol i’r llygad ac, yn bwysicaf oll, yn ymarferol yn y cartref modern ac yn gwneud pobl yn hapus.”
Ers 2015 mae wedi bod yn feirniad poblogaidd ar gyfres deledu Sianel 4 The Great Pottery Throwdown. Yn 2022 cyhoeddodd ei hunangofiant Boy in a China Shop: Life, Clay and Everything.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.