Mae Kate Malone, yn adnabyddus am ei photiau lliwgar afieithus yn ogystal ag am ei gweithiau safle-benodol, ac mae pob un ohonynt yn defnyddio’r byd naturiol fel ffynhonnell ysbrydoliaeth. Wedi’u hadeiladu hefo coiliau, eu modelu a’u fowldio, mae ei ffurfiau serameg organig ffrwythlon yn gerfluniol iawn. Bydd Kate yn arddangos llu o dechnegau y mae’n eu defnyddio yn ei gwaith: gan gynnwys torchi ffurfiau cymesur ac anghymesur; modelu gwahanol arwynebau a sbrigiau â llaw; creu a llenwi mowldiau. Bydd hefyd yn rhannu ei gwybodaeth aruthrol o dechnegau gwydredd a’r prosesau sy’n gysylltiedig â chreu gweithiau mawr iawn.