Cwblhaodd Jo Taylor radd Meistr mewn Dylunio 3D: Serameg, ym Mhrifysgol Bath Spa yn 2012 ar ôl rhoi’r gorau i’w gyrfa flaenorol fel plismones. Mae hi’n gwneud ffurfiau cerfluniol o ddarnau o glai, gyda phob darn yn cynnwys ystum ei llaw. Ymhlith y dylanwadau gweledol mae nenfydau plastr, gatiau haearn gyr a cherfiadau pren. Bydd rhan gyntaf ei harddangosiad yn cynnwys defnyddio olwyn crochenydd i wneud mwyafrif y cydrannau ar gyfer y cerflun. Mae’r ail ran yn cynnwys gwneud cydrannau pellach â llaw gan ddefnyddio mowld bisque. www.jotaylorceramics.com