‘Rwyf ar bwynt yn fy llinell amser personol sy’n croesi yn ôl ac ymlaen rhwng parth swyddogaeth iwtilitaraidd a cherflunwaith.’ Symudodd Jeff Shapiro o’r UDA i Japan am 9 mlynedd, lle profodd brentisiaeth crochenydd tanio pren ffurfiol, yna symudodd yn ôl i UDA lle mae’n dal i fyw a gweithio. Bydd yn arddangos ei ddulliau o adeiladu hefo slabiau gan ddefnyddio templedi, gan weithio ar ddarnau mawr yn cynnwys potel drionglog pum troedfedd o daldra. Bydd hefyd yn dangos sut mae’n gwneud platiau trwchus o glai wedi’i ailgylchu, ac yn cerfio bowlenni te â llaw. ‘Rydw i eisiau herio a chael fy herio, ysbrydoli a chael fy ysbrydoli, gweithredu pan fod rhywbeth wedi fy ysgogi, teimlo’r angerdd i greu fel ymateb i’r hyn rwy’n ei weld, ei glywed, ei gyffwrdd, ei arogli a’i flasu…’