Ganed Jason Walker yn Pocatello, Idaho, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel artist yn Bellingham, Washington a Kona, Hawaii. Mae wedi dysgu a darlithio mewn sawl man yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Sefydliad Serameg Jingdezhen yn Tsieina a’r Stiwdio Serameg Ryngwladol yn Kecskemet, Hwngari. Mae’n creu ffurfiau ffigurol gyda naratifau darluniadol iawn ar borslen a tsieina. Yn ei waith mae’n archwilio sut mae technoleg wedi newid ein canfyddiadau o natur, diwylliant, anialwch a gwareiddiad. Bydd Jason yn arddangos dulliau adeiladu â llaw gyda phaentio porslen a thanwydredd.