Cafodd Jack Doherty ei eni a’i fagu yn Iwerddon, a’i hyfforddi ym Mhrifysgol Ulster yn Belfast. Penodwyd Jack yn ddiweddar i swydd Brif Gorchenydd yn Grochendy Leach yn St Ives, Cernyw, ac mae’n ffigwr egnïol ac allweddol yn y byd serameg ym Mhrydain. ‘Rwyf wedi gweithio gyda phorslen ers blynyddoedd lawer ac rwy’n mwynhau rhinweddau gwahanol iawn y deunydd amlbwrpas hwn. Yn ystod yr Ŵyl byddaf yn gwneud darnau wedi taflu ac wedi adeiladu hefo slabiau. Bydd y potiau wedi’u taflu yn dangos natur fwy coeth y clai. Byddaf yn defnyddio asennau taflu i ymestyn a siapio’r ffurfiau ac amrywiaeth o offer byrfyfyr i nodi’r arwynebau tra bod y clai yn dal yn feddal. Gyda’r darnau hyn rydw i’n ceisio cynhyrchu cydbwysedd rhwng ffurf ac addurn, gan geisio cadw egni a ffresni’r gwneuthuriad bob amser. Gwneir y platiau a llestri o slabiau mewn ffordd fwy cadarn, gan ddefnyddio’r un offer a marciau ond gan dynnu’n ddwfn i’r slabiau clai trwm. Gobeithio y bydd gan y potiau hyn ansawdd coffaol wrth barhau i fod yn weithredol. ’