Mae’r artist serameg Gráinne Watts wedi bod yn gweithio gyda chyfrwng clai ers dros 40 mlynedd. Yn dod yn wreiddiol o Blackrock, Dulyn, gan dderbyn ei haddysg yn NCAD, mae Grainne wedi symud yn ddiweddar i Kilkenny, ardal sy’n fywiog yn ddiwylliannol, lle mae hi yn y proses o sefydlu stiwdio newydd.
Mae Gráinne wedi arddangos ei gwaith yn eang yn Iwerddon, mewn orielau megis Millcove, Kenmare, So Fine Art yn Nulyn a’r Blue Egg yn Wexford; yn rheolaidd yn y DU yn Alveston Fine Arts, Llundain ac Oriel Bevere Gallery, Caerwrangon, ac yn rhyngwladol.
‘Mae fy mherthynas gyda chlai yn parhau i gael ei hysbrydoli gan y ffurfiau amrywiol a ddarganfyddir yn y byd naturiol ac yn archwilio fy niddordeb mewn geometreg organig a’m cariad tuag at liw.
‘Rwy’n defnyddio clai crochenwaith caled / porslen, yn dibynnu ar ddimensiynau’r darn, gan ddefnyddio technegau taflu ac adeiladu â’r llaw i greu ffurfiau cerfluniol unigol. Mae’r arwynebau yn cael eu paentio â’r llaw gydag haenau o sgleiniau a phatrymau geometrig a ddaw’n rhan hanfodol o’r ffurf. Mae ‘na rythm corfforol i’r defodau a’r prosesau o greu ac addurno sy’n bwydo rhywbeth yn fy enaid creadigol.’
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2025 all rights reserved.