Delwedd: Copper Sounds
Bydd yr arddangosfa ym mhrif oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ffocysu ar Serameg a Sain gyda gosodiad sain arbrofol anhygoel gan Copper Sounds (Lloegr), fideos syfrdanol Will Cobbing (Lloegr) yn seiliedig ar serameg a pherfformiad, a gosodiad serameg a llais gan Abi Haywood (Cymru) ‘Y Môr y Merrier’ a ysbrydolwyd gan ddrama Dylan Thomas o 1954, ‘Undermilk Wood’, ond wedi’i diweddaru gydag ambell dro annisgwyl.