Mae David Frith wedi bod yn rhedeg busnes crochenwaith yn Ninbych, Gogledd Cymru gyda’i wraig Margaret ers y 1970au. Mae’n Gymrawd o’r ‘Craft Potter’s Association’ ac roedd yn is-gadeirydd rhwng 1984-1990. Yn anffodus bu farw crochenydd De Cymru, Steve Mills, yn gynharach eleni; roedd yn gefnogwr ac yn gynghorydd gwych i’r ŵyl a bydd colled fawr ar ei ôl. I anrhydeddu ei gof, mae’r adeilad odyn hwn yn fersiwn Eco o’r odyn yr oedd Steve yn mynd i’w hadeiladu a’i thanio yng Ngŵyl eleni.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.