Mae gan David Frith a’i wraig Margaret fusnes crochenwaith hirsefydlog yng Ngogledd Cymru sy’n cynhyrchu nwyddau clai caled domestig wedi tanio mewn atmosffer ‘rydwythiad’. Ers diwedd y 1990au, mae David Frith wedi canolbwyntio ar ffurfiau crwn mawr fel poteli a jariau yn ogystal â phlatiau mawr gyda sylfaen gwydredd celadon. Trwy gydol ei yrfa mae David wedi bod yn aelod gweithgar o sefydliadau crochenwyr gan gynnwys y ‘Craft Potters Association’ a Chrochenwyr Gogledd Cymru. Bydd David Frith yn arddangos taflu, troi ac addurno ar raddfa fawr ar yr olwyn.