Cerflunydd ffigurol cyfoes Prydeinig yw Brendan Hesmondhalgh, sy’n fwyaf adnabyddus am ei gerfluniau serameg ac efydd unigryw o anifeiliaid wedi’u gwneud â llaw. Gan ddefnyddio slabiau o glai neu gwyr cerfluniol, mae Hesmondhalgh yn lapio, yn haenu ac yn rheoli’r cyfrwng i greu darnau unigryw sy’n dal elfennau o gymeriad, ffurf a symudiad pob creadur unigol.
Fe’i ganed yn Swydd Gaerhirfryn, Lloegr ym 1973 a threuliodd beth amser yng Ngogledd Cymru cyn astudio ar gwrs serameg cerfluniol yng Ngholeg Celf Caeredin ym 1994. Treuliodd 18 mis fel artist preswyl yng Nghanolfan Gelf Drumcroon lle bu’n gweithio gyda phlant mewn gweithdai celf a datblygu ei waith ei hun. Yna dilynodd ei yrfa ar ei liwt ei hun ar ôl symud i Swydd Efrog ym 1998. Yn ei waith cynnar bu’n darlunio anifeiliaid mewn dau a thri dimensiwn ac yn mwynhau’r rhyddid i fynegi ei syniadau ar raddfa maint bywyd go iawn.
Dechreuodd Hesmondhalgh weithio ar ddarnau raddfa fawr ar ôl ennill nifer o gomisiynau celf gyhoeddus. Mewn rhai o’r cerfluniau hyn arbrofodd gydag anifeiliaid ar blinthiau a seiliau geometrig a oedd yn dwysáu taldra’r creadur ac yn caniatáu mwy o wrthgyferbyniad. Mae’r arwyneb yn parhau i fod yn elfen â ffocws y mae’n parhau i’w datblygu, gan ychwanegu lliw a marciau cyfeiriadol a gweadol i wella pob ffurf. Mae’r cerfluniau’n amrywio o ran maint gyda chasgliadau bach ‘argraffiad cyfyngedig’ yn cael eu cynhyrchu at rhai â dimensiynau anferth. Mae’r ffigurau ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o grŵp.
Gan sefydlu’r Sculpture Lounge Studios yn Holmfirth, Gorllewin Swydd Efrog yn 2004, amcan Brendan Hesmondhalgh oedd adeiladu amgylchedd gwaith creadigol lle gallai ymarferwyr celf weithio ochr yn ochr, i gydweithio ac ysbrydoli. Mae ef a’i gyd-artistiaid wedi cyflawni hyn.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.