Mae Bouke de Vries yn creu gosodiadau anhygoel. Mae ei darn ‘War and Pieces’ wedi teithio’n rhyngwladol i lawer o leoliadau ers 2012. Astudiodd Bouke de Vries yn Academi Ddylunio Eindhoven, a Central St Martin’s, Llundain. Ar ôl gweithio gyda John Galliano, Stephen Jones a Zandra Rhodes, newidiodd yrfaoedd ac astudio cadwraeth ac adfer serameg yng Ngholeg West Dean. Gan ddefnyddio ei sgiliau fel adferwr, mae ei weithiau celf yn ailddefnyddio potiau wedi torri ar ôl eu trawma damweiniol. Mae wedi ei alw’n ‘harddwch y dinistr’. Yn ei ddarlith bydd Bouke de Vries yn dangos sut mae’n gwneud darnau cerfluniol o serameg wedi torri, gan ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygodd gyntaf fel adferwr serameg.