logo

Bonnie Grace – Cymru

Mae Bonnie Grace yn artist amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar draws darlunio, cerameg, a printiau. Mae ei hymarfer yn troi o gwmpas hen bethau a serameg; ymchwilio, a chyfieithu’r gwrthrychau hyn.

Wedi tyfu i fyny wedi’i hamgylchynu gan fusnes antiques ei mam, mae Bonnie wedi’i hysbrydoli gan y patrymau cymhleth, y siapiau amrywiol, a’r hanesion sydd wedi’u hymgorffori ym mhob gwrthrych. Mae ei serameg yn cynnig dehongliad personol o serameg traddodiadol a nwyddau coffaol, gan dynnu ysbrydoliaeth arbennig o serameg Cymreig a’r dreseri y cawsant eu harddangos arnynt.

Mae Bonnie yn dechrau gyda lluniadu llinell barhaus, gan ei ddefnyddio fel ffordd i ddatgysylltu oddi wrth y gwrthrych a’i archwilio’n fwy rhydd. Gan ei chael yn anodd meddwl mewn tri dimensiwn, mae hi’n trin clai fel pe bai’n bapur. O’i darluniau llinell, mae’n creu templedi ac yn defnyddio slabiau o glai i ffurfio siapiau 2D a 3D, gan blygu a phinsio’r arwynebau i siapio gwrthrychau unigryw. Mae hi’n addurno ei gwaith gyda haenau o iswydredd lliw, pensil seramig, decals, a lustres, gan dynnu o batrymau hanesyddol i roi personoliaeth unigryw i bob darn. Mae serameg Bonnie hefyd yn fodd o fynegi ei meddyliau a’i theimladau, weithiau trwy iaith codio wedi’i hysbrydoli gan god deuaidd a’r gridiau ailadroddus a geir mewn tecstilau.

Gwefan: https://bonniegraceart.wordpress.com

Instagram: @bonnie.grace.art

Date: March 06, 2025