Ganed Ashraf Hanna yn El Minia-Yr Aifft ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru.
I ddechrau, astudiodd Ashraf Dylunio Theatr yn Central Saint Martins yn Llundain cyn darganfod clai ym 1996. Ar ôl sefydlu ymarfer llwyddiannus mewn serameg stiwdio, mynychodd y Coleg Celf Frenhinol rhwng 2009-11 gan ennill MA mewn serameg a gwydr.
Yn 2013 derbyniodd Ashraf Wobr Fawr Cymru Creadigol i gychwyn ar brosiect o’r enw An Exploration in The Language of Form and Material’ lle archwiliodd y berthynas rhwng deunydd a dyluniad, gan ganolbwyntio ar y ddeialog rhwng serameg a gwydr. Cafodd y gwaith gwydr wedi ei wneud o ganlyniad hyn ei gyflwyno yn Biennale Gwydr Prydain 2015 a dyfarnwyd yr ‘gorau yn y sioe’ iddynt.
Cynrychiolir ei waith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys y V&A, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Gwydr Ernsting Stiftung Alter Hof Herding.
“Wrth dyfu i fyny yn yr Aifft cefais fy amgylchynu gan ffurfiau crochenwaith sydd heb newid fawr ddim ers yr hen amser, ffurfiau clasurol sydd wedi hidlo drwy’r oesoedd, wedi eu cyffwrdd a’u ffurfio gan law’r crochenydd. Gwnaeth arsylwi agos yn ystod dosbarthiadau lluniadu o gyfansoddiadau bywyd llonydd yng Ngholeg Celfyddydau Cain El MInia agor fy llygaid i’r harddwch a’r bodlonrwydd sy’n bodoli o fewn ffurfiau sydd wedi’i hystyried a’u cyflawni’n dda. Fodd bynnag, ni wnes i ddarganfod llawenydd gweithio gyda chlai tan symud i’r DU! Rwy’n defnyddio’r broses adeiladu â llaw i greu ffurfiau unigol a grwpiau sy’n ymwneud ag archwilio cyfaint, gofod a llinell.”
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.