Cerflunydd o Ogledd Orllewin y DU yw Angela Tait. Mae hi hefyd yn darlithio mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Salford.
Trwy ei hymchwil PhD ‘Ceramics and the Domestic Ritual’ mae hi’n ymchwilio i’r berthynas sydd gan ymarfer creadigol â rhwymedigaethau neu drefn ddomestig. Gwneir hyn trwy broses cyfryngau cymysg sydd yn aml yn cynnwys crefftau ‘cartref’ eraill fel crosio a brodwaith, gan greu ffurfiau cerfluniol sy’n golygu bod ei llestri serameg yn adnabyddadwy ac weithiau’n berfformiadol ond yn anweithredol mewn unrhyw ffordd ymarferol neu addurnol hyd yn oed.
Crynodeb:
Ar hyn o bryd mae’r Cerflunydd Angela Tait yn cynnal ymchwil PhD gyda Phrifysgol Sunderland ar y pwnc, ‘Ceramics and the Domestic Ritual’. O safbwynt ymarfer, mae hi’n ymchwilio i’r berthynas sydd gan ymarfer creadigol â rhwymedigaethau domestig.
“Wash, hang, fold, put away, wear, wash, hang, fold, put away, wear
Cast, fettle, polish, fire, cast, fettle, polish, fire
Shop, cook, eat, shop, cook, eat
hrow, turn, dry, fire, throw, turn, dry, fire”
Bydd Angela yn cyflwyno ei hymchwil hyd yma. Mae hyn yn cynnwys trosolwg o’r darnau cerfluniol y mae hi wedi cynhyrchu hyd yn hyn, crynodeb o’r dulliau y mae’n eu defnyddio a dyfyniad o’r ysgrifennu arbrofol y mae’n ei wneud.
Mae’r Blovel (blog/nofel) yn cymryd y ffurf o gyfres o gofnodion dyddiadur neu flog sy’n ymdrin ag agwedd ar y PhD. Bob amser yn onest, weithiau’n emosiynol ac weithiau’n ddoniol, mae’r blovel yn plotio cynnydd y daith PhD. Mae’r ysgrifennu weithiau’n cynnal yr ymarfer trwy gydblethu theori, mae’n dilyn taith bersonol ymchwilydd ac fe’i defnyddir hyd yn oed ar gyfer casglu data ansoddol. Yn y pen draw, bydd y testunau hyn yn ffurfio un o gyfraniadau gwreiddiol Angela yn gweithredu fel offeryn myfyriol ac ymarferol am y tro.