Mae Vineet Kacker yn cael ei ysbrydoliaeth o athroniaethau a chelf a phensaernïaeth y Dwyrain sy’n cyfeirio at y sanctaidd, yn enwedig o ranbarthau Uchel Fynyddoedd Himalaia ar isgyfandir India. Mae’n bwriadu ail-greu ei ddarnau ‘Tirlun’ yn yr Ŵyl, lle mae sylfaen dirwedd organig, rychog, gyda ffurf bensaernïol debyg i stupa ar ei ben. Bydd yn gweithio gyda chlai meddal hydrin sy’n cael ei ymestyn a’