‘Rwy’n gweithio yn y traddodiad crochenwaith slip. Ei wreiddiau yng Ngogledd Dyfnaint a’m denodd ato. Ei ddatblygiad diymhongar o’r pot canoloesol bob dydd hyd at ei le bywiog yng nghrochendy’r dydd presennol a’m cadwodd i fynd. Mae’r potiau yn cael eu creu ar gyfer y gegin, y ffwrn a’r bwrdd i ddathlu bwyd mewn bywyd bob dydd. Er bod fy ngwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhraddodiadau crochenwaith slip Gogledd Dyfn