Mae Regina Heinz yn fwyaf adnabyddus am y ffurfiau ‘gobennydd’ y mae hi’n eu creu fel cerfluniau haniaethol unigol neu fel rhan o gyfres panel wal. Wedi’u hysbrydoli gan dirwedd fynyddig ei mamwlad, Awstria, a’u hadeiladu o slabiau meddal o glai, mae darnau Regina Heinz yn arddangos ansawdd organig a synhwyraidd. Yn atgoffa rhywun o agosatrwydd at y corff a llinellau yn llifo yn y tirwedd, gellir gweld ei gwaith, yn