Hyfforddodd Paul Young yng Ngholeg Celf Sheffield a Chesterfield o ddiwedd y 1970au i ddechrau’r 1980au. Mae traddodiadau crochenwaith slip Lloegr a chelf werin Ewropeaidd yn dylanwadu ar ei waith. Mae’n gwneud darnau ffigurol a darnau wedi eu taflu sy’n efelychu naratifau chwareus nwyddau Swydd Stafford o’r 18fed ganrif. Bydd yn arddangos taflu a modelu colomendy a chanhwyllbren, yn ogystal â