Mae Masakazu Kusakabe yn grochenydd ac yn adeiladwr odynau enwog. Mae wedi bod yn ymchwilio i ddulliau tanio ers y 1970au ac yn yr Ŵyl bydd yn arddangos adeiladu a thanio ei ‘odyn ddi-fwg’. ‘Mae’r odyn ddi-fwg yn deillio o ymdrech i gyflawni taniadau cyflym, gydag effeithiau tân a lludw cryf ar botiau, wrth allyrru bron dim mwg ar dymereddau tanio uchel. I mi mae’r odyn yn rhan o’r bydysawd. Y tu mewn mae