Ganwyd Magdalene Odundo yn Nairobi, Kenya a’i haddysgu yn Kenya ac India. Gan ddod i Brydain ym 1971, astudiodd yn Surrey ac yn y Coleg Celf Frenhinol. Mae hi wedi teithio ledled Ewrop, America ac Affrica, gan dynnu ar ffynonellau mor amrywiol â chrochenwaith New Mexico, celf corff Canolbarth Affrica, a ffurfiau cerflunwaith Groegaidd cynnar. Mae parch mawr i’w gwaith ac fe’i cynrychiolir mewn casgl
Cefais fy ngeni yn y DU ond ymfudais i Awstralia ym 1988 ac astudio Serameg yn yr Ysgol Celf Genedlaethol yn Sydney. Rwyf wedi gweithio fel crochenydd ers hynny, gan adeiladu gweithdai ac odynau yn Awstralia a’r DU, ar ôl dychwelyd yn 2002. Ar hyn o bryd rwy’n byw ac yn gweithio mewn pentref bach ar gyrion y Ffens, ger Caergrawnt. Mae fy ngwaith yn archwilio’r cysylltiadau rhwng serameg a dae