Astudiodd Karin Putsch-Grassi serameg yn Sefydliad Celf Fflorens ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Goldsmith’s Llundain. Ei phrif ddiddordeb oedd yn y broses o danio, a dechreuodd adeiladu a thanio gwahanol fathau o odynau ar unwaith: odynau tanio â phren tymheredd isel, odynau nwy, odynau raku a soda wedi’u gwneud o friciau tân a ffibr serameg. Yn 2009 adeiladodd hi a’i gŵr eu hodyn gyntaf o boteli gwin gwa