Mae Jane Hamlyn MBE yn enw blaengar ym maes crochenwaith stiwdio yn y DU ac mae’n adnabyddus am ei serameg wydredd-halen nodweddiadol. Ar ôl hyfforddi yn Ysgol Gelf Harrow (1972-4) sefydlodd Weithdy Crochendy Millfield ger Doncaster yn Swydd Efrog. Gydag agwedd arbrofol tuag at ei gwaith datblygodd amrediad o botiau a llestri bwrdd ‘ar gyfer defnydd ac addurno’. Mae hi’n ddarlithydd ac yn arddangoswraig ddylanwadol