Roedd Elke Sada yn wyddonydd yn yr Almaen cyn ymgymryd â gradd serameg yng Nghaerfaddon, ac yna astudio yn y Coleg Brenhinol. Yn ôl yn Merzhausen yn yr Almaen sefydlodd ei stiwdio serameg yn 2005, lle perffeithiodd ddull arloesol, ‘wyneb i waered’ o greu ei gweithiau. Mae hi’n dechrau trwy baentio delweddau haniaethol ar fwrdd plastr, gan ddefnyddio engobe. Yna mae hi’n tywallt clai ar yr arwyneb wediR