Mae Bouke de Vries yn creu gosodiadau anhygoel. Mae ei darn ‘War and Pieces’ wedi teithio’n rhyngwladol i lawer o leoliadau ers 2012. Astudiodd Bouke de Vries yn Academi Ddylunio Eindhoven, a Central St Martin’s, Llundain. Ar ôl gweithio gyda John Galliano, Stephen Jones a Zandra Rhodes, newidiodd yrfaoedd ac astudio cadwraeth ac adfer serameg yng Ngholeg West Dean. Gan ddefnyddio ei sgiliau fel adferwr, mae ei weith